Ysgrifennaf atoch mewn ymateb i adroddiad Yr Athro Medwin Hughes, ac i fynegi fy siom yn yr adroddiad hwn. Nid af i fanylu ar y diffygion a amlygwyd gan sawl person mewn blogiau ac erthyglau ar y we(gan yr wy’n cymryd eich bod hefyd yn ymwybodol o’r rhain) yn sgil cyhoeddi’r adroddiad; o’r ffeithiau anghywir, i’r gwrth-ddweud cyson, i’r gwrthdaro buddiannau sydd gan sawl aelod o’r panel.  Hefyd, rwyf newydd gael fy mhenodi yn Gadeirydd y Gymdeithas Gerdd Dafod(Barddas) a thra bod y pwyllgor wedi trafod yr adroddiad, hoffwn nodi, mai siarad o brofiad ac o safbwynt personol yr wyf yn y llythyr hwn, ac nid ar ran unrhyw gymdeithas, sefydliad na chwmni.  Hoffwn dynnu eich sylw at ddau bwynt, felly mae rhan 1 a rhan 2 i’r llythyr hwn. 

Yn gyntaf, mae’r adroddiad yn honni diffinio beth yn union yw Awdur, beth yw hanfod ei swydd, ei ddyletswyddau, anghenion a, thrwy hynny, honni siarad ar ran awduron ym mhobman yng Nghymru.  Mae diffiniad yr adroddiad o awdur yn un cul, hen ffasiwn ac yn sylfaenol anwir wrth ystyried profiad awduron o bob oedran heddiw yng Nghymru, ac yn sicr o gymharu diffiniad yr adroddiad o awdur gyda fy mhrofiadau fy hunan, fel rhywun sy’n gwneud bywoliaeth fel awdur, hoffwn ymhelaethu ar pam rwy’n gweld y diffiniad yma yn beth peryglus.  Rwyf wedi cyhoeddi tair cyfrol o gerddi a bod yn rhan o dros ddwsin o antholegau, yn ogystal â chyhoeddi fy ngwaith mewn papurau newydd a chylchgronau poblogaidd a llenyddol, yn ogystal ag ar-lein a thrwy wefannau cymdeithasol fel Twitter.  Rwyf hefyd, fel awdur, yn cael datgan fy ngwaith, ac yn aml, bydd fy ngwaith yn gweld golau dydd am y tro cyntaf yng ngŵydd cynulleidfaoedd byw.  Mae datgan gwaith ar lafar yn rhan hanfodol o’r broses awduro, yn rhan o siapio’r gwaith, o dderbyn ymateb cynulleidfa sydd hefyd yn siapio llais person fel bardd ac awdur.  Yn aml nid yw cyfran helaeth o’r gweithiau a ddatgenir yn gyhoeddus ar lafar yn cael eu cyhoeddi mewn print, ond ystyriaf y gweithiau hyn yn rhan ddilys o fy nghynnyrch llenyddol. 

Fel awdur rwyf hefyd yn cydweithio ar draws y celfyddydau gydag artistiaid, cerddorion, llenorion a gwneuthurwyr ffilmiau.  Gwelaf fel mae modd i fy nghyfrwng pennaf i(sef barddoni) gyfrannu at gyfanwaith ehangach sy’n fwy na dim ond gosod cerddi ar bapur mewn cyfrol.  Mae cyfran go sylweddol o fy incwm fel awdur hefyd yn dod o weithio mewn ysgolion neu gyda chlybiau ieuenctid a sgwadiau sgwennu.  Gwaith tiwtor creadigol yw hyn yn y bôn, ond mae’n waith pwysig sy’n cynnig cyfleoedd prin i ddisgyblion ysgol i ddatblygu eu doniau, ond hefyd i mi gadw i ddatblygu a dysgu fel awdur, o brofi dychymyg ac egni syniadol pobol ifanc ledled Cymru, i fireinio fy nghrefft.  Tra rwyf ar un llaw yn gorfod, o dro i dro, cau fy hunan yn fy stydi i ysgrifennu, mae trwch mawr o’r hyn rwy’n ei wneud fel awdur, yr hyn sy’n caniatáu imi wneud bywoliaeth yn digwydd tu hwnt i gyfyng furiau’r stydi.  Y gwir yw bod y rhychwant o bethau mae awdur yn ei wneud yn gymaint ehangach na’r diffiniad diffygiol a nodir yn yr adroddiad o beth yw awdur, ac mewn gwirionedd, mae ceisio diffinio rôl yr awdur yn ffuantus ac yn haerllug.  Pe bawn i fel awdur yn dibynnu ar eistedd lawr, ysgrifennu fy llyfr, ei weld yn cael ei gyhoeddi ac yna ei drafod ar banel mewn gŵyl lenyddol, ni fyddai modd i fi wneud bywoliaeth yn Gymraeg yn y modd hwn.  Y rheswm am hyn yw nad oes digon o fuddsoddiad yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru mewn i farddoni yn Gymraeg.  Rhaid felly, os am wneud bywoliaeth fel bardd Cymraeg, ddefnyddio dulliau entrepreneuraidd i gadw dau ben llinyn ynghyd.  Dylid nodi hefyd, nad llyfrau yn unig, o bell ffordd, sy’n cadw barddoniaeth Gymraeg yn fyw. 

Daw hyn â mi at ail ran fy llythyr, sef yr ymosodiad a geir yn yr adroddiad ar Lenyddiaeth Cymru, yn benodol.  Hoffwn nodi fod gen i brofiad o gydweithio gyda’r Cyngor Llyfrau a llenyddiaeth Cymru, o fy nghyfnod fel Bardd Plant Cymru ac o fod wedi cyhoeddi cyfrolau sy’n mynd dan lygaid golygyddion yn y Cyngor Llyfrau.  Mae fy mhrofiadau o gydweithio gyda’r ddau sefydliad wedi bod yn rhai ffrwythlon a llon.  Ond gresynaf weld yr hyn a wna’r adroddiad, sef gosod y ddau sefydliad benben â’i gilydd fel gelynion, lle bo lle i’r ddau gydweithio yn llwyddiannus tua’r dyfodol. 

Tra bod o hyd lle gan bob sefydliad i wella, ac mae hyn yn wir am y cyngor llyfrau ac am Lenyddiaeth Cymru, hoffwn nodi fod cyfraniad Llenyddiaeth Cymru(ac fel Academi, gynt) i fy natblygiad i fel bardd ac awdur wedi bod yn hanfodol bwysig.  Dim ond wedi i mi gyrraedd cerrig milltir lle teimlwn fod gen i feistrolaeth dros fy nghyfrwng y deuthum i gysylltiad â’r Cyngor Llyfrau.  Heb yr holl gyfleon a gefais gan lenyddiaeth Cymru, ni fyddwn wedi cyrraedd lle rydw i heddiw fel bardd arobryn ac awdur cyhoeddiedig.  Nid gormodiaeth yw nodi hyn.

O nodi dim ond ambell gyfle a gefais trwy Lenyddiaeth Cymru, gwelir fod gan y sefydliad rhan fawr a phwysig i’w chwarae ym mywyd llenyddol y genedl.  O fod yn Fardd Plant Cymru, i gael arwain sgwadiau sgwennu, o fod yn rhan o sioe farddol i blant(Bx3, cynhyrchiad ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru ac Arad Goch) i fod yn rhan o sioe aml-gyfryngol a deithiodd ledled Cymru ac yn Rhyngwladol am Dylan Thomas, o gyfleooedd i gyfieithu, i gael gweithio gyda phobol ifanc ddifreintiedig mewn llefydd mor wahanol â Mynydd Cynffig a Llanberis.  O gael archwilio codio cyfrifiadurol a’r gynghanedd gyda disgyblion cynradd yn y Barri i gael datgan fy ngwaith yn gyhoeddus am y tro cyntaf.  Cefais gyfle i sefydlu cystadleuaeth farddoni Slam Cymru, a gwelais â’m llygaid fy hun yr effaith gadarnhaol gall llenyddiaeth ei gael ar fywydau pobol o bob oedran yn sgil cynlluniau ac arweiniad staff Llenyddiaeth Cymru.  Dim ond crafu’r wyneb a wnaf fan hyn o ran nodir cyfoeth o brofiadau arbrofais yn sgil y cyfleon a ddarparwyd gan Lenyddiaeth Cymru.  

Nid yw’r adroddiad chwaith yn ystyried fod Llenyddiaeth Cymru/Literature Wales yn cyflawni gwaith ar ran dwy ochr ein cenedl, yr ochr Gymraeg a’r ochr Saesneg.  Byddai gweithredu argymhellion yr adroddiad yn andwyol i’r byd barddol Cymraeg yng Nghymru, i un o draddodiadau llenyddol hynaf Ewrop.  Yn wir, dylid edrych ar ehangu’r arian a’r cynlluniau sy’n bodoli ar y foment ar gyfer barddoni a llenydda yn Gymraeg.  Os ydy’r iaith am ffynnu, os ydym am gyrraedd miliwn o siaradwyr, rydym angen beirdd a llenorion sydd o ddifrif am eu crefft, ac sy’n gallu gwneud eu bywoliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.